Ein Cenhadaeth
Cysylltu busnesau technoleg, digidol a chreadigol â'r gofod, y cymorth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.
Ein Gweledigaeth
Sefydlu Cymru fel canolfan fyd-eang ar gyfer arloesi technoleg, lle gall pob sylfaenydd gael gafael ar y cysylltiadau, y cyfalaf a'r gymuned sydd eu hangen arnynt i greu cwmnïau technoleg twf uchel.
Archwiliwch gydweithio hyblyg, swyddfeydd preifat, ystafelloedd cyfarfod a mannau digwyddiadau wedi’u dylunio i helpu'ch busnes i ffynnu.
Dysgu mwyYdych chi'n chwilio am raglenni dan arweiniad arbenigwyr, mentoriaeth, cymorth strategol a chymuned barod o arloeswyr?
Dysgu mwyMewn cydweithrediad â sefydliadau academaidd blaenllaw a phartneriaid yn y diwydiant, rydym yn darparu hyfforddiant sgiliau digidol ymarferol wedi'i ariannu'n llawn.
Dysgu mwyP’un a ydych chi’n weithwir llawrydd, busnes newydd neu’n fusnes sy’n ehangu, ymunwch â'n cymuned gydweithio deinamig yn Tramshed Tech. Mwynhewch opsiynau hyblyg fel pasys dydd, swyddfeydd preifat, ystafelloedd cyfarfod, a stiwdios podlediad. Rydym yma i gefnogi eich llwyddiant gyda mannau gwaith addasadwy, adnoddau cychwyn busnes a hyfforddiant busnes arbenigol.
Ydych chi'n barod i fynd â'ch busnes i'r lefel nesaf? Ein nod yw cefnogi teithiau entrepreneuraidd ar bob cam, o'r cysyniad cychwynnol i ehangu byd-eang. Trwy ein rhaglenni arobryn a'n cyflymyddion partner wedi'u curadu, rydym yn darparu'r arbenigedd, y fentoriaeth, yr adnoddau a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Dewch o hyd i'ch gweithle perffaith yn Tramshed Tech, gydag aelodaeth gydweithio wedi'i theilwra i'ch anghenion. Galwch heibio gyda thocyn dydd, ymunwch â'n cymuned gydweithio fywiog yn rhan-amser, neu dewiswch ni i fod eich canolfan amser llawn gyda mynediad 24/7 diderfyn. Beth bynnag yw eich dull gweithio, mae gennym aelodaeth hyblyg sy'n addas i chi.
Yn rhan o gymuned fywiog Tramshed Tech, mae Da yn falch o ddathlu popeth rydyn ni'n ei garu am gysylltu, cydweithio ac, wrth gwrs, coffi! P'un a ydych chi yng Nghaerdydd neu Abertawe, mae Da yn cynnig coffi perffaith, bwyd lleol ac awyrgylch cynnes, croesawgar sydd heb ei ail. Wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at y gorsafoedd trên yn y ddwy ddinas, Da yw'r lle perffaith i fachu paned o goffi a chysylltu â'r gymuned. Dewch draw i brofi calon ein cymuned gyda’ch paned nesaf!
Mae Tramshed Tech yn cynnig amgylchedd hyblyg a chefnogol i fusnesau sy’n tyfu. Ni allem fod wedi lleoli Configur mewn lleoliad gwell na gyda grŵp gwell o bobl.
Yng ngwanwyn 2023, gwnaeth Equinox Tramshed Tech yn cartref parhaol - a tyda ni heb edrych yn ôl. Nid yn unig ydi Tramshed Tech yn leoliad ysbrydoledig a chyfleus i'n tîm sy'n tyfu, ond hefyd mae'n cysylltu ni â rhwydwaith ehangach o dalent creadigol yng Nghymru.
Roeddem yn deall iechyd a pheirianneg, ond yr hyn a’n harweiniodd at Academi Egin Fusnesau Technelog Tramshed oedd yr angen i ddatblygu gweledigaeth rymus ar gyfer ein platfform ac i adeiladu sylfeini cryf ar gyfer twf.

Mae gennym amrywiaeth o fuddion gwahanol sy’n addas ar gyfer pob rhan o’ch busnes. P’un a ydych yn chwilio am ostyngiadau cinio i’ch tîm, lleoliadau partner er mwyn gallu gweithio o ble rydych chi eisiau, neu fanteision cwmni fel credydau AWS neu Twilio; mae Tramshed Tech yn darparu cymaint mwy na gweithleoedd yn unig.
Gyda lleoliadau yng Nghaerdydd, Casnewydd, y Barri ac Abertawe, mae ein tîm profiadol yn barod i wneud eich digwyddiad yn fythgofiadwy—boed yn ddigwyddiad rhwydweithio, yn gyfarfod, diwrnod cwrdd i ffwrdd, gweithdy neu lansio cynnyrch.